David Irving | |
---|---|
Ganwyd | David John Cawdell Irving 24 Mawrth 1938 Brentwood |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | awdur ysgrifau, newyddiadurwr, ysgrifennwr, cofiannydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Gwefan | http://www.fpp.co.uk/ |
Mae David John Cawdell Irving (ganwyd 24 Mawrth 1938) yn honni bod yn "hanesydd" Ail Ryfel Byd ac mae'n awdur nifer o lyfrau. Ar adegau gwahanol, mae wedi ei wahardd o'r Almaen, Awstria, Canada, Awstralia, a Seland Newydd. Yn y 1970au roedd Irving yn cael ei dderbyn fel hanesydd awdurdodol ond yn dilyn yr achos hwn profwyd fod ei dystiolaeth yn wallus ac fe ddaethpwyd i ddeall fod ganddo agenda hiliol wrth ysgrifennu.[1]
Yn 1998, dechreuodd achos o enllib yn erbyn Deborah Lipstadt a'r cyhoeddwr Penguin am iddi ddweud yn ei llyfr bod Irving yn gwadu bodolaeth yr Holocost. Bu'r achos yn aflwyddiannus. Yn ystod yr achos, fe ddisgrifiodd Irving yr hanesydd a thyst Richard J. Evans, sydd o dras Gymreig, yn "little dumpy scowling Welshman"[2] a "that horrid little Welshman".[3]
Ar 20 Chwefror, 2006, dedfrydwyd Irving i dair blynedd o garchar yn Awstria am wadu bodolaeth yr Holocost, ond cafodd ei ryddhau ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search